Skip to main content

Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH: Kim

Mae Kim yn wraig, yn fam ac yn nain o Ganolbarth Cymru sydd wrth ei bodd â’r theatr. Mae hefyd yn un o Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH. Dyma ei stori:

Rwy’n 57 oed ac rwy’n byw yng Nghanolbarth Cymru. Rwy’n briod ac mae gen i ddau o blant sydd wedi tyfu’n oedolion, ac un ŵyr. Rwy’n mwynhau pob math o chwaraeon, addurno a’r theatr. Un peth nad yw llawer o bobl yn ei wybod amdanaf yw bod fy ewythr yn arfer bod yn focsiwr enwog!

Ddeng mlynedd yn ôl cefais waedlif ar yr ymennydd, yn ogystal â dau ymlediad arall. Rwyf hefyd wedi dioddef sawl profedigaeth deuluol yn anffodus. O ganlyniad i hyn, roedd gen i iselder a gorbryder difrifol.

Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn helpu i ddod o hyd i achosion anhwylderau meddyliol, gan y bydd hyn yn helpu pobl i ddeall mai salwch go iawn yw salwch meddwl, nid rhywbeth rydym yn ei ddychmygu. Wrth i ddealltwriaeth pobl wella, gobeithio y bydd hynny’n helpu i atal pobl rhag meddwl mai pobl od yw pobl â salwch meddwl.

Roedd gwirfoddoli i NCMH yn hawdd. Dim ond ateb ychydig o gwestiynau a rhoi mymryn o waed roedd yn rhaid i mi ei wneud, ac roedd hynny’n gwbl ddi-boen. Roedd y ddau ymchwilydd y gwnes i gwrdd â nhw yn bobl hyfryd dros ben. Byddwn yn sicr yn argymell i bobl eraill gymryd rhan.

Roedd yr ymchwilydd ifanc a ddaeth i’m gweld yn rhadlon ac yn broffesiynol, ac yn amyneddgar iawn â mi yn ystod y cyfweliad. Gwnaeth i mi deimlo’n gyfforddus iawn drwy gydol y cyfweliad. Nid oedd gen i unrhyw bryderon ynglŷn â siarad am fy salwch ac ateb y cwestiynau a ofynnwyd i mi am ei bod hi’n gwneud i mi deimlo’n gyfforddus iawn. Byddwn yn sicr yn ei argymell i bobl eraill.

Drwy gymryd rhan, rwy’n gobeithio y gallaf wneud fy rhan er mwyn helpu i ddatblygu gwell diagnosis a mesurau ataliol yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o fewn cymdeithas i’r rheini ohonom sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl o ddydd i ddydd. Mae’r niferoedd yn cynyddu bob dydd, ac mae angen rhagor o gymorth.

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd