Dr Emily Peckham
Prif Ymchwilydd
Mae Dr Emily Peckham yn Gymrawd Ymchwil Hŷn ym Mhrifysgol Bangor, Ysgol y Gwyddorau Iechyd. Ei phrif ddiddordebau ymchwil yw anghydraddoldebau iechyd, yn enwedig y rhai sy’n cael eu profi gan bobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol.
Mae hi wedi cynnal amryw o astudiaethau yn archwilio ffyrdd o wella iechyd corfforol pobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol, gan gynnwys treialon ymyriadau ar gyfer rhoi’r gorau i ysmygu, cynyddu gweithgarwch corfforol a gwella iechyd y geg.
Mae ei gwaith ar roi’r gorau i ysmygu a gweithgarwch corfforol wedi cael ei ddyfynnu’n helaeth.