Stori Sandylee
Mae Sandylee yn nyrs iechyd meddwl gofrestredig 36 oed yn Llundain. Mae Sandylee hefyd yn un o Hyrwyddwr Ymchwil y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl (NCMH), ac yn helpu i ledaenu newyddion am ein hymchwil. Dyma ei stori hi:
Helo, Sandylee ydw i.
Dw i’n mwynhau addurno’r tš, garddio, darllen ac ymchwilio, yn enwedig ym maes iechyd meddwl. Un ffaith ddifyr amdanaf i yw bod fy mab wedi’i eni ar fy mhen-blwydd!
Cael diagnosis
Cefais ddiagnosis o anhwylder dysfforig cyn-mislif (PMDD) ym mis Ionawr 2024 – ar Ă´l blynyddoedd o feddwl, âBeth syân digwydd i fi? Oes gen i anhwylder deubegwn, neu anhwylder personoliaeth ffiniol?â
Des i ar draws PMDD wrth wylio rhywun ar YouTube yn trafod ei symptomau, a  dw i’n cofio meddwl: âMae hwnnaân swnio fel fi.â Ysgogodd hynny fi i ddechrau cofnodi fy symptomau innau.
Cofnodais y symptomau am tua thri mis cyn gweld y meddyg teulu, ond yna teimlais i mi gael fy ngwrthod yn llwyr. Dywedodd wrthyf fod symptomau syndrom cyn-mislif (PMS) yn normal. Roeddwn i’n teimlo wedi fy nhrechu ac ar fy mhen fy hun (eto).
Roeddwn i’n dal i sylwi ar y patrwm. Byddwn i’n teimlo’n hapus ac yna, yn gwbl annisgwyl, byddwn i’n ddagreuol, yn ddig, ac yn bigog. Ambell i ddiwrnod roeddwn iân methu cysgu ac ar ddiwrnodau eraill prin oeddwn i’n gallu codi fy mhen oddi ar y gobennydd.
Cadw cofnod o fy symptomau PMDD
Cysylltais â’r meddyg teulu eto, ond y tro hwn roedd gen i fwy o dystiolaeth. Ar y pwynt hwn, roeddwn i’n fyfyriwr nyrs iechyd meddwl, fellyân gallu cofnodi fy symptomau’n gywir. Fe wnes i’n siĹľr fod gen i tua chwe mis o wybodaeth, gan gynnwys manylion am anwadalwch fy hwyliau.
O’r diwedd, cefais fy atgyfeirio a gofynnwyd i mi gadw dyddiadur am chwe mis arall. Ochr yn ochr â PMDD, mae gen i endometriosis, adenomyosis ac osteopenia hefyd. Cymerodd dros dair blynedd a chwyn i mi gael fy ngweld o’r diwedd a’m cymryd o ddifrif.
Dw i’n cael trafferth gyda blinder eithafol, gorbryder, pyliau o banig, a chynddaredd. Byddaf i’n mynd i’r gwely’n ddagreuol ac yn deffro mewn panig. Weithiau dw i’n hollol iawn ac yna’n sydyn mae’n fy nharo.
âDw iân pendroni o ble daeth y cwmwl tywyll trwchus hwn.â
Dw i’n gallu teimlo mor optimistaidd, ac yna’n sydyn gael fy nharo i lawr eto.
Dw i hefyd wedi sylwi fy mod i’n gwneud llawer o gamgymeriadau yn ystod y cyfnod lwteal. Mae fy ngallu i ganolbwyntio’n mynd yn anhygoel o wael.
Dw i wedi colli ffrindiau. Mae unrhyw berthynas rhamantus wir wedi dioddef. Mae hyd yn oed yr yrfa dw i wedi gweithio mor galed i’w chael wedi gorfod oedi.
Mae angen ymchwil i wella triniaeth a chefnogaeth ar gyfer PMDD
Dw i wedi rhoi cynnig ar driniaethau rheng flaen, o gyffuriau gwrth-iselder i’r profiad diweddaraf gyda menopos cemegol, a hyd yn hyn, does dim byd wedi gweithio, ac mae’r sgil-effeithiau’n drech na’r manteision. Oherwydd natur fy symptomau, dyw cwnsela ddim wedi helpu llawer hyd yn hyn.
Fodd bynnag, dw i wedi gwneud ymchwil i’r hyn a allai weithio i mi.
âDw i wedi gwylio rhai menywod anhygoel o gryf yn siarad am PMDD ac yn adennill eu bywydau.â
Dw i wedi ymuno â grwpiau ffocws ac wedi newid fy ffordd o fyw.
Roeddwn i’n arfer ynysu fy hun, ond dw i wedi dysgu y gall ynysu waethygu pethau. Ar yr un pryd, mae bod o gwmpas pobl eraill weithiau’n fy sbarduno; dw i wedi deall pwy yw fy mhobl ddiogel, a dw i’n pwyso arnyn nhw.
Mae pob mis yn parhau i fod yn frwydr. Dw i’n codi fy hun, dim ond i gael fy rhwygo’n Ă´l i lawr eto. Pan fydda i’n teimlo’n dda, mae rhan ohonof i’n poeni na fydd yn para. Dyna sut mae’r cylch yn teimlo mewn gwirionedd.
âDw i ddim yn ymladd yn erbyn y dagrau mwyach.â
Roeddwn i’n arfer cynhyrfu cymaint wrth orfod gorwedd yn y gwely yn methu gwneud llawer. Nawr, byddaf iân gwylio un o fy hoff gyfresi ac yn archebu fy hoff fwyd. Dw i’n gwybod y bydd fory yn waeth ond gwnaf i ddelio â fory pan ddaw.
Dw i hefyd yn paratoi i ddechrau MSc mewn TherapĂŻau Seicolegol, gyda’r gobaith o ddefnyddio fy ngwybodaeth broffesiynol a’m profiad byw i gefnogi ac eiriol dros fenywod sy’n profi heriau tebyg yn y dyfodol.
Pam y cymerais ran yn ymchwil NCMH
Ces i wybod bod y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yn gwneud ymchwil ar PMDD o’r enw PreDDICT.
âByddwn i’n annog unrhyw un sydd wedi profi PMS difrifol neu ddiagnosis o PMDD rywdro yn eu bywyd i gymryd rhan er mwyn i ni allu darparu llwybr gofal iechyd priodol i gefnogi pobl â PMDD.â
Diolch i Sandylee am rannu ei stori.
Adnoddau
- Cymerwch ran yn astudiaeth PreDDICT
- Lawrlwythwch ein taflen PMDD
- Nodwch eich symptomau yn defnyddio’r dyddiadur PMDD
- Dewch yn Hyrwyddwr Ymchwil