Cymorth gyda’n hymchwil i’r menopos ac iechyd meddwl
Ynglŷn â’r astudiaeth hon
Rydym yn ceisio deall mwy am achosion a sbardunau afiechyd meddwl a sut y gall y menopos effeithio ar hyn.
Fe’ch gwahoddir i gymryd rhan yn yr ymchwil hwn os ydych chi’n 35 oed neu’n hŷn ac wedi cael mislif. Nid oes angen i chi fod wedi profi salwch meddwl i gymryd rhan.
Os ydych yn penderfynu cymryd rhan, byddwn yn gofyn i chi roi rhywfaint o wybodaeth i ni amdanoch chi eich hun, eich iechyd meddwl yn ystod eich cylch mislif, yn ystod y menopos ac yn ystod unrhyw feichiogrwydd i chi brofi/plant efallai y cawsoch er mwyn ein helpu i ateb y cwestiynau ymchwil pwysig hyn.
Rydym hefyd am nodi pobl a fyddai’n fodlon i ni gysylltu â nhw i gymryd rhan mewn rhagor o brosiectau ymchwil iechyd meddwl yn y dyfodol.
Mae angen i gynifer o bobl â phosibl gymryd rhan a’n helpu i wneud gwahaniaeth.
Beth fydd yn rhaid i mi ei wneud?
Mae cymryd rhan yn wirfoddol: eich dewis chi yw cofrestru ai peidio.
Os ymunwch â ni, gofynnir i chi a fyddech chi’n fodlon gwneud y canlynol:
- Rhoi eich manylion cyswllt i ni (e.e. cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) a rhywfaint o wybodaeth bersonol (e.e. dyddiad geni, grŵp ethnig a statws cyflogaeth).
- Ateb rhai cwestiynau am afiechyd meddwl o amgylch y menopos a digwyddiadau atgenhedlu eraill y gallech fod wedi’u profi. Bydd hyn yn cymryd tua 20-30 munud.
- Caniatáu i ni gysylltu’r wybodaeth a ddarparwch â setiau data dienw a gesglir yn rheolaidd, fel y rhai a gedwir yn y gronfa ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), er mwyn ateb cwestiynau ymchwil yn y dyfodol sy’n ymwneud ag iechyd meddwl. Bydd y data o fewn unrhyw set ddata o’r fath yn gwbl ddienw ac ni fydd modd ei adnabod mewn unrhyw ffordd.
- Caniatáu i ni gysylltu â chi yn y dyfodol ynglŷn â’r astudiaeth hon ac astudiaethau eraill y gallech fod eisiau cymryd rhan ynddynt. Ni fydd unrhyw rwymedigaeth arnoch i gymryd rhan yn y cyfleoedd hyn yn y dyfodol.
- Caniatáu i ni gysylltu â chi bob chwech i ddeuddeg mis, i’ch gwahodd i roi rhagor o wybodaeth am eich iechyd meddwl, eich iechyd corfforol a’ch ffordd o fyw.
- Caniatáu i ni ledaenu gwybodaeth ddienw ymhlith ymchwilwyr eraill a chanddynt sêl bendith wyddonol a moesegol ynghylch y cwestiynau yr hoffen nhw i chi eu hateb.
Byddwn yn defnyddio eich atebion i wella ein dealltwriaeth o afiechyd meddwl a helpu i ddod o hyd i driniaethau gwell yn y dyfodol.
Unwaith y byddwch wedi ymuno, gallwch ddewis a ydych am gymryd rhan yn unrhyw un o’r holiaduron, astudiaethau neu ddigwyddiadau y byddwn yn dweud wrthych amdanynt pan fyddwn yn cysylltu â chi.
Cwestiynau cyffredin
Chwilio am ragor o wybodaeth yn gyntaf? Rydym wedi llunio atebion i rai cwestiynau cyffredin.