Skip to main content

Tîm NCMH yn ennill gwobr Arloesi ac Effaith am drawsnewid gofal trawma

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod ein tîm Datblygu Ymyriadau wedi cael ei gydnabod am ail-siapio sut mae cyflyrau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â thrawma yn cael eu trin, trwy ennill gwobr Arloesi ac Effaith yng Ngwobrau Dathlu Rhagoriaeth Prifysgol Caerdydd.

Mae tîm Datblygu Ymyriadau’r Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl (NCMH) yn arwain rhaglen ymchwil sy’n ehangu mynediad at ofal sy’n seiliedig ar dystiolaeth wrth wella canlyniadau i bobl sy’n byw gydag anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD) a chyflyrau eraill sy’n gysylltiedig â thrawma.

Wrth wraidd llwyddiant y tîm mae Spring PTSD, ymyrraeth ddigidol gyfeiriedig gyntaf y DU ar gyfer PTSD, a gynhyrchwyd ar y cyd â phobl sydd â phrofiad bywyd.

Esboniodd Dr Catrin Lewis, ymchwilydd Spring yn NCMH: “Wedi’i ddatblygu trwy raglen ymchwil drylwyr, gan gynnwys astudiaethau peilot, treial ymarferoldeb a hap-dreial rheoledig aml-ganolfan mawr, dangoswyd bod Spring PTSD yr un mor effeithiol â therapi gwybyddol ymddygiadol wyneb-yn-wyneb sy’n canolbwyntio ar drawma, gyda buddion yn dal i’w gweld ar ôl blwyddyn.

“Mae’r sail dystiolaeth gref hon wedi arwain at gydnabyddiaeth gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), a argymhellodd yr ymyrraeth i’w defnyddio o fewn y GIG, sy’n garreg filltir bwysig ar gyfer therapi digidol a ddatblygwyd gan brifysgol.”

Mae effaith y tîm yn ymestyn y tu hwnt i ymchwil i ofal iechyd yn y byd go iawn

 Mae Spring PTSD bellach yn cael ei ddefnyddio fel mater o drefn ar draws pob un o saith bwrdd iechyd GIG Cymru, gyda gwerthusiad ar raddfa fawr o bron i 500 o gleifion yn cadarnhau ei fod yn effeithiol, derbyniol a hyblyg mewn lleoliadau clinigol bob dydd. Mae ei gyfieithu i sawl iaith hefyd yn sbarduno mwy o ddefnydd rhyngwladol.

Gan adeiladu ar y sylfaen hon, mae’r tîm wedi datblygu cyfres o ymyriadau digidol newydd wedi’u teilwra i grwpiau sydd wedi’u tanwasanaethu, gan gynnwys cyn-filwyr, pobl ifanc, unigolion â PTSD cymhleth, a’r rhai sy’n profi anhwylder galar hir. Mae un o’r rhaglenni diweddaraf, Spring PGD, wedi’i chreu ar y cyd ag elusennau profedigaeth i sicrhau ei bod yn adlewyrchu safbwyntiau diwylliannol a ffydd amrywiol.

Dywedodd yr Athro Jon Bisson, Cyfarwyddwr NCMH, “Mae’r fenter NCMH hon yn helpu i ail-siapio’r ddarpariaeth gwasanaethau. Mae mwy na 100 o therapyddion ledled Cymru wedi cael eu hyfforddi i gyflwyno ymyriadau Spring, gan ymgorffori llwybrau gofal digidol mewn ymarfer arferol ac ehangu mynediad at gymorth arbenigol.

“Gyda chynlluniau ar y gweill am gwmni deillio yn y brifysgol, mae ein tîm Datblygu Ymyriadau NCMH yn parhau i wthio ffiniau arloesedd iechyd meddwl digidol – gan atgyfnerthu safle Prifysgol Caerdydd fel arweinydd wrth drosi ymchwil yn effaith gymdeithasol ystyrlon.”

Darllenwch am y rhaglen Spring ddiweddaraf ar dudalen newyddion Prifysgol Caerdydd.

Julia Pearce

Mae Julia yn Swyddog Cyfathrebu yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddoniaeth Glinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gofrestru ar gyfer y cylchlythyr
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd