Skip to main content

Mae Rita yn fam, yn nyrs gymwysedig ac yn eiriolwr iechyd meddwl.

Mae hefyd yn un o Hyrwyddwr Ymchwil y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl, gan helpu i ledaenu newyddion am ein hymchwil.

Wrth dyfu i fyny yng nghefn gwlad Iwerddon yn yr 80au, treuliais lawer o amser heb fy mam a oedd yn yr ysbyty oherwydd sgitsoffrenia. Roeddwn i’n teimlo’n wahanol i’m cyfoedion ac yn dioddef iselder gwael yn ystod fy arddegau. Es i at feddyg am help. Rhagnododd y meddyg gyffuriau gwrthiselder i mi ond yn eironig, ni ofynnodd erioed am salwch meddwl yn y teulu.

Es i ymlaen i astudio nyrsio yn Nulyn, ond roeddwn i’n yfed llawer o alcohol ac roeddwn i’n cynhyrfu ac yn ymosodol ar nosweithiau allan gyda fy ffrindiau. Es i yn ôl at y meddyg eto am gymorth ond cefais fy ngwrthod.

Er gwaethaf yr anawsterau hyn, fe wnes i raddio yn 2007 a dechrau gweithio fel nyrs. Dirywiodd fy iechyd meddwl eto yn ystod y flwyddyn gyntaf honno o nyrsio, felly penderfynais symud i Awstralia i ddechrau bywyd newydd. Roedd y tywydd a’r ffordd o fyw yn Awstralia yn anhygoel, ac fe wnes i arian da. Fodd bynnag, roeddwn i’n dal i yfed llawer o alcohol ac roedd fy ymddygiad di-hid yn parhau. Rwy’n sylweddoli nawr mai rhedeg oddi wrth fy mhroblemau oeddwn i. Fe wnes i ddysgu’r ffordd galed bod eich problemau’n dod gyda chi ni waeth ble rydych chi’n mynd.

Yn lle ceisio cymorth, penderfynais symud eto – y tro hwn i’r Dwyrain Canol yn gweithio fel uwch nyrs i deulu pwysig. Daeth hyn gyda hyd yn oed mwy o gyfleoedd i deithio i leoedd fel yr Almaen a’r Swistir. Dychwelais i Awstralia rywbryd yn ddiweddarach, ond gwaethygodd fy iechyd meddwl eto, a dechreuais i gael meddyliau hunanladdol. Roeddwn i ar fin neidio o adeilad pum llawr ond ffoniais linell gymorth a alwodd ambiwlans i mi. Ces i fy nghludo i’r Adran Achosion Brys a’m derbyn dros nos. Yna ces i fy rhyddhau gan wybod fy mod i ar fy mhen fy hun ac yn bell o Iwerddon.  Ffoniais adref a phenderfynais ddychwelyd yno. Archebais fy hediadau a bu’n rhaid i mi aros 5 diwrnod am hediad. Roeddwn i’n teimlo nad oedd bywyd yn werth ei fyw, doeddwn i ddim eisiau marw, dim ond i’r poen i ddod i ben. Cymerais i orddos, ac roeddwn i’n chwydu ac yn cael dolur rhydd cronig ar fy mhen fy hun. Dyma rai o ddyddiau mwyaf llwm fy mywyd.

Derbyn diagnosis a throi cornel

Dechreuodd fy adferiad pan helpodd fy nheulu fi i gael gafael ar gymorth. Roedd gen i feddyg rhagorol a wnaeth ddiagnosio sgitsoffrenia i mi ac egluro fy mod i wedi bod yn sâl ers blynyddoedd a bod fy chwalfa’n mynd i ddigwydd rywbryd yn fy mywyd.. Ces i Clozapine ar gyfer sgitsoffrenia sy’n gwrthsefyll triniaeth gydag effaith wych.

Roeddwn i’n ffodus i gael ffrindiau da a ganiataodd i mi aros gyda nhw nes i mi godi ar fy nhraed eto gan fy mod i’n ddigartref. Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd cadw swydd fel gweithiwr gofal iechyd proffesiynol nes i’r adran iechyd galwedigaethol benderfynu na allwn weithio fel nyrs. Dilynwyd hyn gan atglafychiad, mynd i’r ysbyty ac yna atgyfeiriad i’r tîm adsefydlu ac adfer.

Fe wnaeth yr atgyfeiriad hwn newid fy mywyd. Fe wnaethon nhw fy helpu i fyw’n annibynnol a threfnu i fi gael cwnsela dwys, therapi ymddygiad gwybyddol a rhaglen ymarfer corff a helpodd fi i golli pwysau a fagwyd trwy gymryd Clozapine. Fe wnes i roi’r gorau i alcohol a dechreuais wneud gwaith gwirfoddol gyda SeeChange yn Iwerddon. Roedd gwirfoddoli yn wych ar gyfer fy adferiad. Es i yn ôl i’r coleg adsefydlu am 2 flynedd ac yna es i yn syth yn ôl i gyflogaeth gofal iechyd.

Ers hynny, rydw i wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau codi arian ar gyfer achosion iechyd meddwl a chorfforol. Fe wnes i ymddangos hyd yn oed mewn rhaglen ddogfen am fyw gyda sgitsoffrenia ar deledu cenedlaethol.

Taith ymlaen

Fe wnes i gwrdd â fy mhartner, a phenderfynon ni gael plentyn. Aethon ni i weld seiciatrydd amenedigol a ddywedodd fy mod mewn perygl o ailwaelu pe bawn i’n beichiogi. Roeddwn i’n meddwl na fyddai hynny’n digwydd oherwydd fy mod i wedi bod yn iach ers blynyddoedd. Dywedodd ffrindiau ac aelodau’r teulu wrtha i na ddylwn gael plentyn oherwydd bod gen i salwch meddwl, ond roedd fy nghalon yn benderfynol. Felly, fe wnes i roi’r gorau i gymryd lithiwm wrth barhau i gymryd gweddill fy meddyginiaeth ac fe wnes i feichiogi. Roedd yn mynd yn dda nes i fy mam farw’n annisgwyl ym mis Chwefror 2022. Roeddwn i wedi bod yn feichiog ers pum mis ac roedd hyn wedi fy llorio. Ar ôl i fy mab gael ei eni, ces i wybod bod gan fy nhad ganser terfynol.

Dirywiodd fy iechyd meddwl eto, ac es i i’r ysbyty am chwe mis i ffwrdd o fy mab ifanc. Ces i therapi electrogynhyrfol (ECT). Pan ddychwelais adref, roeddwn i’n cael cymorth gan warchodwr plant yn ogystal â chwnsela. Dechreuais waith gwirfoddol eto. Es i ar absenoldeb salwch estynedig o’r gwaith i wella. Fe wnes i wella’n llawer cynt y tro hwn o’i gymharu â’m hepisod cyntaf. Roedd gen i warchodwr plant, felly roeddwn i’n arfer mynd i nofio a mynd i’r gampfa er mwyn fy iechyd corfforol a meddyliol.

Nawr, rwy’n gweithio gyda meddygon yn Iwerddon i wella’r gwasanaethau iechyd meddwl, gan weithio gyda grŵp lle rwy’n rhannu fy mhrofiad bywyd mewn gwahanol gynadleddau iechyd meddwl, ac yn gwasanaethu fel llysgennad dros elusen iechyd meddwl. Rwyf wedi cael y cyfle i gwrdd â Gweinidog Iechyd Meddwl Iwerddon a rhoi argymhellion iddi. Er gwaethaf gwahanu oddi wrth fy mhartner ac ychydig o ffrindiau gydol oes yn ystod fy atglafychiad diwethaf, mae bywyd yn dda nawr.

Pam rwy’n frwd dros ymchwil

Rwy’n frwd dros ymchwil oherwydd ei bod yn gallu helpu i wella gwasanaethau iechyd meddwl. Po fwyaf o ymchwil a wneir, y gorau fydd y gwasanaethau iechyd meddwl. Ar wahân i gymryd arolwg cyffredinol y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd, rwy’n parhau i weithio gyda gwahanol sefydliadau yma yn Iwerddon ar wahanol gyflyrau. Mae’n bosibl i fenywod â salwch meddwl ddod yn famau.

Dywedwch wrthym rywbeth nad yw pobl efallai’n ei wybod amdanoch chi

Roeddwn i mewn rhaglen ddogfen yma yn Iwerddon am sgitsoffrenia. Mae yna lawer o stigma o hyd ynghylch cyflyrau iechyd meddwl ac rwy’n gobeithio newid hynny. Yn y pen draw, rydw i eisiau i bobl wybod y gall pobl â sgitsoffrenia fod yn rhieni da, ac rydw i’n oroeswr.

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd