Spring ar gyfer anhwylder galar hirfaith (PGD)
Mae Spring PGD yn therapi digidol dan arweiniad wyth cam a gynlluniwyd ar gyfer trin anhwylder galar hir (PGD).
Yn seiliedig ar therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT), datblygwyd Spring PGD ar y cyd ag unigolion â phrofiad byw o PGD ac arbenigwyr yn y maes.
Nod y dull yw lleihau’r angen am gyswllt helaeth â therapydd trwy gyflwyno technegau a gweithgareddau therapiwtig sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn ddigidol, gyda chanllawiau a chefnogaeth reolaidd gan therapydd. Nod y rhaglen yw lleddfu gofid, helpu unigolion i ddod o hyd i ffyrdd cadarnhaol o gofio am eu hanwyliaid, a’u cefnogi i fyw bywydau ystyrlon sy’n anrhydeddu’r atgofion hynny.
Strwythur y Rhaglen
Mae’r wyth cam yn cwmpasu:
Cam 1: Deall anhwylder galar hirdymor
Mae’r cyflwyniad hwn i’r anhwylder yn cynnwys pedwar cymeriad, wedi’u portreadu gan actorion. Mae pob un o’r rhain yn rhannu eu profiadau unigryw o’r anhwylder yng nghyd-destun gwahanol fathau o brofedigaeth.
Cam 2: Gofalu amdanoch eich hun
Dysgu am hunanofal gyda phwyslais ar ymwybyddiaeth ofalgar, technegau ymgyfarwyddo â’r hyn sydd o’n cwmpas, ac ymarferion ymlacio.
Cam 3. Stori eich colled
Mae’r cam hwn yn canolbwyntio ar weithio drwy atgofion o’r golled a’u hailbrosesu’n raddol.
Cam 4: Cofio’r person y gwnaethoch chi ei golli
Arweinir y rhai sy’n cymryd rhan drwy dechnegau i ymgysylltu o ddifrif ag atgofion cadarnhaol am eu hanwylyd.
Cam 5: Ail-ymgysylltu â bywyd
Yn y cam hwn, caiff y rhai sy’n cymryd rhan eu helpu i nodi gwerthoedd a mynd ati’n raddol i gymryd rhan mewn gweithgareddau pleserus neu ystyrlon.
Cam 6: Meddyliau a theimladau
Cyflwynir technegau gwybyddol i herio meddyliau nad ydyn nhw o unrhyw fudd i neb, a’u hail-lunio.
Cam 7: Anrhydeddu’r golled
Yn y cam hwn, caiff y rhai sy’n cymryd rhan eu helpu i nodi ffyrdd annefnyddiol o anrhydeddu eu hanwyliaid ac edrych ar ddewisiadau amgen ystyrlon, fel creu jar atgofion neu gofeb.
Cam 8: Y dyfodol
Yn y cam olaf hwn, caiff y gwersi a ddysgwyd yn ystod y rhaglen eu hatgyfnerthu a rhoddir strategaethau ar waith ar gyfer rheoli galar yn y dyfodol.
Nodweddion
- Cynnwys rhyngweithiol: Mae naratif sain gan bob cam, gyda gwybodaeth allweddol a delweddau yn cael eu harddangos ar y sgrin. Mae mewnbwn cyfranogwyr yn dylanwadu’n uniongyrchol ar yr adborth maen nhw’n ei gael, ac mae sgriniau ychwanegol yn caniatáu i chi lywio’n hyblyg. Mae nodwedd nodi tudalennau yn sicrhau y gall defnyddwyr ddychwelyd yn hawdd i’r man lle gwnaethon nhw adael.
- Astudiaethau achos cymeriadau: Mae’r rhaglen yn cynnwys pedwar cymeriad, pob un yn cael ei bortreadu gan actorion, yn cynrychioli unigolion â PGD. Mae cynnwys fideo yn olrhain eu cynnydd trwy bob cam, gan ddarparu enghreifftiau perthnasol o sut y gallai unigolion lywio Spring PGD.
- Pecyn cymorth: Mae ardal bwrpasol yn cynnig mynediad hawdd i gydrannau allweddol y rhaglen a gwybodaeth y mae defnyddwyr yn ei mewnbynnu. Mae’r offer yn annog ymgysylltu â thechnegau sy’n seiliedig ar CBT a ffyrdd ystyrlon o anrhydeddu atgof anwylyd, fel ysgrifennu naratif am y golled a chreu jar atgofion rhithwir.
- Dangosfwrdd i glinigwyr: Mae’r dangosfwrdd i glinigwyr yn rhoi data amser real i therapyddion ar ymgysylltiad a chynnydd cyfranogwyr drwy’r rhaglen. Mae’r data hwn yn caniatáu i therapyddion deilwra eu cefnogaeth yn ystod sesiynau arwain, gan fynd i’r afael ag anghenion penodol a sicrhau bod cyfranogwyr yn cadw ar y trywydd iawn gyda’r deunyddiau digidol.
- Gwybodaeth i deulu a ffrindiau: Mae taflen ddefnyddiol ar gael i deulu a ffrindiau, yn rhoi gwybodaeth am PGD a throsolwg o raglen Spring PGD. Mae’r adnodd hwn yn helpu anwyliaid i ddeall y cyflwr yn well a dysgu sut i gefnogi’r cyfranogwr yn ystod y driniaeth.
Canllawiau therapyddion
- Y cyfarfod cyntaf: Mae sesiwn gyflwyniadol awr o hyd gyda therapydd yn helpu i sefydlu perthynas, asesu profiadau’r cyfranogwr gyda PGD, darparu manylion mewngofnodi, a chynnig arddangosiad llawn o’r rhaglen.
- Sesiynau dilynol: Mae pedwar cyfarfod bob pythefnos, pob un yn para 30 munud, yn cynnig cefnogaeth barhaus i gyfranogwyr, gan eu helpu i barhau i ymgysylltu a mynd i’r afael yn effeithiol ag unrhyw heriau y gallent eu hwynebu.
- Cymorth parhaus: Yn ogystal â’r cyfarfodydd, mae cyfranogwyr yn cael pedwar sesiwn cadw mewn cysylltiad byr dros y ffôn neu e-bost rhwng sesiynau i drafod eu cynnydd, datrys problemau a phennu nodau newydd.
- Llawlyfr y therapydd: Mae llawlyfr therapydd cynhwysfawr yn sicrhau y gellir cyflwyno’r rhaglen mewn ffordd safonol a strwythuredig. Mae’n rhoi cyfarwyddiadau a chanllawiau manwl, gan alluogi therapyddion i gyflwyno Spring PGD yn gyson ac yn effeithiol.
Hygyrchedd
Mae rhaglenni’r Spring wedi’i chynllunio i’w defnyddio ar wahanol ddyfeisiau, gan gynnwys cyfrifiaduron personol, gliniaduron, tabledi a ffonau clyfar.
Cyhoeddiadau
Lewis, C., Smalley, M., Kitchiner, N. J., Roberts, N. P. a Bisson, J. I. 2025. Co-production of Spring PGD: a guided digital therapy for prolonged grief disorder (PGD). European Journal of Psychotraumatology 16, rhif erthygl: 2551402. (10.1080/20008066.2025.2551402)
Lewis, C., Smalley, M., Phillips, D. M., Dattero Snell, G., Thomas, B., Wong Sing Yun, J. a Bisson, J. I. 2025. Spring PGD versus waiting list control in the treatment of prolonged grief disorder (PGD): protocol for a feasibility randomised controlled trial (RCT). European Journal of Psychotraumatology 16, rhif erthygl: 2554031. (10.1080/20008066.2025.2554031)