Skip to main content

Ynglŷn â’r astudiaeth

Ceir sail ymchwil gynyddol i ddangos bod gan wahanol fathau o ddiagnosis iechyd meddwl botensial i amharu ar weithgarwch gwybyddol mewn parthau gwybyddol amrywiol, gan gynnwys cynllunio, ataliaeth a chof gweithredol. Darllenwch ragor. 

Rydym wedi creu offeryn asesu gwybyddol y gellir ei ddefnyddio i fonitro cof a chanolbwyntio mewn gwasanaethau iechyd meddwl o’r enw Asesiad Gwybyddol Ar-lein Caerdydd (CONCA).

Mae CONCA:

  • yn asesiad sy’n cynnwys pum tasg cof a phosau, ac sy’n cymryd tua 30 munud i’w gwblhau
  • yn hygyrch ar ddyfeisiau gwahanol gan gynnwys gliniaduron, tabledi a ffonau clyfar
  • yn gallu rhoi adborth ar berfformiad ar ôl ei gwblhau.

Noder ein bod ar hyn o bryd yn recriwtio dynion rhwng 16 a 35 oed a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gymryd rhan.

Sut i gymryd rhan

Rydym yn chwilio am ddynion rhwng 16 a 35 oed   a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â phrofiad o weithio mewn Gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis (EIPS) i roi cynnig ar CONCA. Bydd cyfranogwyr yn derbyn £20 am bob asesiad, sy’n para 1 awr.

Os hoffech gymryd rhan, llenwch ffurflen i fynegi diddordeb a bydd un o’r tîm yn cysylltu â chi.

Beth i’w ddisgwyl

Byddwn yn gofyn i ddynion rhwng 16 a 35 oed sydd â hanes o seicosis i wneud y canlynol:

  • I gwblhau holiaduron am eu hiechyd meddwl, y pum tasg yn CONCA a holiadur adborth am CONCA, a’ch barn am fonitro weithrediad gwybyddol mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
  • Byddwch yn cael y cyfle i gwblhau dau asesiad dilynol os dymunwch wneud hynny:
    • Cyfweliad manwl 1 awr o hyd i gael mwy o syniad am eich barn am CONCA, a sut mae eich iechyd meddwl wedi effeithio ar eich gwybyddiaeth.
    • Cwblhau CONCA am yr ail dro 4 wythnos ar ôl eich asesiad cyntaf (30 munud).

Byddwn yn gofyn i ddynion 16-35 oed:

  • I gwblhau CONCA ddwywaith dros gyfnod o 4 wythnos inni gael ystyried pa mor gyson yw’r sgoriau dros gyfnod o amser.

Byddwn yn gofyn i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â phrofiad o EIPS:

  • I gwblhau cyfweliad 1 awr o hyd am eich barn ar CONCA, i ofyn a ddylai profion gwybyddol ddod yn rhan o ofal seicosis cynnar, a sut y gallai weithio’n ymarferol.

Cymorth

Gallwch gwblhau’r astudiaeth yn eich amser eich hun o bell, neu os byddai’n well gennych, gall ein hymchwilwyr eich cefnogi ar-lein neu wyneb yn wyneb mewn lleoliad o’ch dewis.

Cymryd rhan

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd