Skip to main content

Sgitsoffrenia

Beth yw sgitsoffrenia?

Mae sgitsoffrenia yn salwch sy’n effeithio ar feddwl, teimladau ac ymddygiad tua 1 y cant o’r boblogaeth ar ryw adeg yn eu bywydau. Mae’n un o brif achosion anabledd a gall effeithio ar bobl o bob diwylliant a grŵp ethnig.

Mae dynion ychydig yn fwy tebygol o ddatblygu’r salwch na merched. Bydd y rhan fwyaf o bobl â sgitsoffrenia yn datblygu’r cyflwr gyntaf pan fyddant rhwng 16 a 35 oed.

Gall symptomau sgitsoffrenia fod yn ddramatig iawn a pheri cryn ofn i’r bobl sy’n eu dioddef. Gallant gynnwys gweld neu glywed pethau nad ydynt yno mewn gwirionedd, a elwir yn rhithwelediadau, neu ddatblygu credoau anarferol a brawychus yn aml, a elwir yn rhithdybiaethau. Gall sgitsoffrenia hefyd achosi dryswch meddwl sy’n gallu ei gwneud yn anodd dilyn ystyr lleferydd pobl. Gelwir y profiadau hyn weithiau yn ‘symptomau positif’ neu seicosis.

Yn ogystal â’r symptomau hyn, mae pobl yn aml yn ei chael hi’n anodd cymell eu hunain a chanolbwyntio ac efallai y byddant yn encilio o sefyllfaoedd cymdeithasol. Gelwir y rhain yn ‘symptomau negyddol’ sgitsoffrenia.

Nid yw bod â sgitsoffrenia yn golygu bod gan rywun ‘bersonoliaeth hollt’. Mae’r cyfryngau yn aml yn stereoteipio pobl â’r cyflwr fel rhywun peryglus neu dreisgar – mae hyn yn anghyffredin mewn gwirionedd, ac mae pobl â sgitsoffrenia yn fwy tebygol o ddioddef trosedd. Nid ydym yn gwybod beth yn union sy’n achosi sgitsoffrenia, ond mae geneteg a phrofiadau bywyd yn chwarae rhan.

Mae nifer o ffactorau wedi’u nodi a all olygu bod rhywun yn wynebu mwy o risg o ddatblygu sgitsoffrenia:

  • Perthynas agos â sgitsoffrenia
  • Profi problemau yn ystod beichiogrwydd ac yn ystod rhoi genedigaeth
  • Defnyddio cyffuriau anghyfreithlon, gan gynnwys canabis ac amffetaminau
  • Digwyddiadau trawmatig mewn bywyd (yn enwedig yn ystod plentyndod).

Yn y rhan fwyaf o achosion, ni wyddir sut yn union y mae’r pethau hyn yn cynyddu’r risg.

Cael help

Os byddwch yn credu bod gennych chi neu rywun sy’n agos atoch seicosis neu sgitsoffrenia, mae’n bwysig siarad â meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall cyn gynted â phosibl. Po gynharaf y gwneir diagnosis ac y caiff y cyflwr ei drin, y gorau oll y bydd y canlyniad i’r sawl dan sylw fel arfer.

Bydd y rhan fwyaf o bobl â symptomau seicosis neu sgitsoffrenia yn cael eu hatgyferio at wasanaethau iechyd meddwl i’w hasesu. Os caiff rhywun ddiagnosis seicosis neu sgitsoffrenia, dylent dderbyn cynllun gofal yn amlinellu sut y bydd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gallu helpu.

Triniaethau ar gyfer sgitsoffrenia

Nid oes gwellhad llwyr o sgitsoffrenia ond, ar gyfer y rhan fwyaf o bobl, gellir un ai rheoli’r symptomau’n llwyr neu eu gwella’n sylweddol drwy driniaeth. Mae llawer o bobl â’r salwch yn mynd ymlaen i fyw bywyd sefydlog, gweithio a chael perthynas.

Defnyddir grŵp o feddyginiaethau a elwir yn gyffuriau gwrth-seicotig yn aml i leihau symptomau seicosis. Mae tystiolaeth bod y meddyginiaethau hyn yn gweithio’n dda gyda nifer fawr o bobl, yn enwedig wrth reoli rhithwelediadau a rhithdybiaethau. Efallai na fydd nifer fach o bobl yn elwa rhyw lawer o’r triniaethau hyn.

Gall fod angen treialu ychydig o wahanol feddyginiaethau er mwyn darganfod beth sy’n gweithio orau i unigolyn a chydbwyso’r manteision â’r sgil-effeithiau. Gall triniaethau seicolegol hefyd helpu, ac mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell bod pobl â sgitsoffrenia yn cael cynnig cyfuniad o feddyginiaethau a therapïau siarad.

Mae Therapi Ymddygiad Gwybyddol yn gweithio drwy helpu person i nodi meddyliau a theimladau nas dymunir a’u newid. Gall mathau eraill o gymorth, megis Therapi Ymyriad Teuluol, fod yn ddefnyddiol iawn hefyd. Mae hyn yn canolbwyntio ar helpu teuluoedd i ddeall sgitsoffrenia, a’r ffordd orau o gefnogi eu perthynas. Mae hefyd yn ceisio nodi a lleihau pethau yn amgylchedd y person, megis pwysau, a all achosi ailwaelu neu rwystro’r gwellhad gorau posibl.

Mewn achosion difrifol, efallai y bydd angen i bobl â sgitsoffrenia dreulio cyfnod yn yr ysbyty nes eu bod yn gwella. Efallai y bydd angen i eraill gale llawer o gymorth yn eu bywydau bob dydd ar sail tymor hwy.

Resources

Jonny Benjamin yn herio arbenigwr

Arweiniodd y Niwrogenetydd, yr Athro Mick O’Donovan yr astudiaeth geneteg fwyaf ar sgitsoffrenia a gynhaliwyd erioed, gan arwain at ddealltwriaeth newydd o ran achos biolegol y cyflwr. Teithiodd yr ymgyrchwr iechyd meddwl Jonny Benjamin, sy’n byw gydag anhwylder sgitso-affeithiol, o Lundain i Ganolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig yng Nghaerdydd, i ddysgu mwy am yr hyn y mae’r canfyddiadau yn ei olygu. Yma, mae Jonny yn sôn am y sgwrs honno.

 Gwefannau defnyddiol

Cofrestrwch nawr er mwyn gwneud gwahaniaeth
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd