Skip to main content

Astudiaeth ar-lein

Rydym yn ceisio deall pam mae rhai pobl yn cael problemau gyda’u hiechyd meddwl. Drwy gymharu gwybodaeth gan bobl sydd wedi cael problemau iechyd meddwl â gwybodaeth gan bobl nad ydynt wedi cael problemau o’r fath, rydym yn gobeithio dysgu mwy am y ffactorau a all wneud rhai pobl yn fwy tebygol o ddatblygu salwch na phobl eraill. Rydym yn gobeithio y bydd ein hastudiaeth yn gwella dealltwriaeth o salwch meddwl ac yn helpu i ddod o hyd i driniaethau gwell yn y dyfodol. Os byddwch yn penderfynu cymryd rhan, byddwn yn gofyn i chi roi rhywfaint o wybodaeth sylfaenol i ni amdanoch chi a’ch iechyd meddwl er mwyn ein helpu i ateb y cwestiynau ymchwil pwysig hyn.

Rydym hefyd am ddod o hyd i bobl a fyddai’n fodlon i ni gysylltu â nhw ynglŷn â chymryd rhan mewn rhagor o brosiectau ymchwil iechyd meddwl.

Mae angen i gynifer o bobl â phosibl gymryd rhan – beth bynnag fo’ch oedran, ble bynnag rydych yn byw a ph’un a ydych wedi cael salwch meddwl ai peidio.

Beth fydd yn rhaid i mi ei wneud?

Mae cymryd rhan yn wirfoddol: chi sy’n penderfynu p’un a ydych am gofrestru ai peidio.

Os byddwch yn ymuno â ni, byddwn yn gofyn i chi p’un a fyddech yn fodlon gwneud y canlynol:

  1. Rhoi eich manylion cyswllt i ni (e.e. cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) a rhywfaint o wybodaeth bersonol (e.e. dyddiad geni, grŵp ethnig a statws cyflogaeth).
  2. Ateb rhai cwestiynau am eich iechyd meddwl, eich iechyd corfforol a’ch ffordd o fyw. Bydd hyn yn cymryd tua 10-15 munud.
  3. Caniatáu i ni weld a defnyddio’r wybodaeth yn y cofnodion y mae’r GIG yn eu casglu amdanoch fel mater o drefn. Nod hyn yw cael rhagor o fanylion am y mathau o symptomau a thriniaethau y byddwch wedi’u cael o bosibl. Hoffem hefyd edrych ar eich cofnodion yn y dyfodol er mwyn gweld a oes unrhyw newid wedi bod yn eich iechyd.
  4. Caniatáu i ni gysylltu â chi yn y dyfodol ynglŷn ag astudiaethau eraill y byddwch am gymryd rhan ynddynt o bosibl. Ni fydd unrhyw rwymedigaeth arnoch i gymryd rhan yn y cyfleoedd hyn yn y dyfodol.
  5. Caniatáu i ni gysylltu â chi bob 6–12 mis er mwyn eich gwahodd i roi rhagor o wybodaeth i ni am eich iechyd meddwl, eich iechyd corfforol a’ch ffordd o fyw.
  6. Caniatáu i ni rannu gwybodaeth ddienw ag ymchwilwyr eraill os oes ganddynt gymeradwyaeth wyddonol a moesegol ar gyfer y cwestiynau yr hoffent eu hateb.

Byddwn yn defnyddio eich atebion, ynghyd â’r wybodaeth o’ch cofnodion GIG, i wella ein dealltwriaeth o salwch meddwl a helpu i ddod o hyd i driniaethau gwell yn y dyfodol. Ar ôl i chi ymuno, gallwch ddewis p’un a ydych am gymryd rhan yn unrhyw rai o’r holiaduron, astudiaethau neu ddigwyddiadau y byddwn yn rhoi gwybod i chi amdanynt pan fyddwn yn cysylltu â chi.

Cwestiynau Cyffredin

If you are happy to take part in this study please visit our online survey platform to get started.

Please note that the online survey platform is only available in English

O dan 18 oed? Gallwch helpu o hyd, ond nid ar-lein. Cysylltwch â ni yn info@ncmh.info neu ffoniwch 029 2068 8401 i gael gwybod rhagor.

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd