Skip to main content

Adnodd sgrinio iselder

Rydym wedi defnyddio ein hymchwil i symptomau penodol o iselder a nodweddion teuluol er mwyn creu adnodd ar-lein y gellir ei ddefnyddio i asesu p’un a yw plentyn neu berson ifanc yn dioddef o iselder ar hyn o bryd neu mewn perygl o ddioddef o iselder yn y dyfodol agos.

Noder mai fel canllaw bras y dylid defnyddio’r adnodd hwn, ac nid yn lle asesiad clinigol. Os ydych yn pryderu am eich iechyd meddwl neu iechyd meddwl unigolyn ifanc, cysylltwch â’ch meddyg teulu.

Gall iselder effeithio ar bobl ifanc yn ogystal ag oedolion. Bob blwyddyn mae cynifer ag 1 o bob 20 person ifanc yn dioddef o’r cyflwr. Mae merched ddwywaith yn fwy tebygol o’i gael na bechgyn.

Mae pobl ifanc yn fwy tebygol o ddioddef o iselder os yw un o’u rhieni hefyd wedi dioddef ohono. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio na fydd llawer o blant i rieni ag iselder yn datblygu problemau eu hunain.

Nod yr holiadur isod yw helpu i adnabod rhai o arwyddion iselder ymhlith pobl ifanc sydd â hanes o’r salwch yn y teulu.

Mae’n bwysig cofio nad yw’r adnodd hwn wedi’i fwriadu i gymryd lle asesiad clinigol priodol gan weithiwr iechyd proffesiynol – os ydych yn pryderu am iechyd meddwl eich plentyn, dylech os ydych yn pryderu am iechyd meddwl eich plentyn, dylech gysylltu â’ch meddyg teulu.

Atebwch bob cwestiwn yn seiliedig ar ymddygiad neu deimladau eich plentyn dros y tri mis diwethaf.
Os nad yw'r frawddeg yn berthnasol i'ch plentyn o gwbl, ticiwch NAC YDY. Os yw'r frawddeg yn berthnasol rywfaint o'r amser neu drwy'r amser, ticiwch YDY.
loading
Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd