Skip to main content

Helpu gydag ymchwil

Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un, ni waeth beth fo’i oedran, rhyw, hil neu gefndir cymdeithasol. Ond gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth.

Mae ein hymchwilwyr yn ymchwilio i’r hyn sy’n arwain at ddatblygu problemau iechyd meddwl, o eneteg a bioleg i ffactorau seicolegol ac amgylcheddol.

Credwn fod dealltwriaeth well o broblemau iechyd meddwl yn allweddol i wneud bywyd yn well i’r rheini y mae’r problemau hynny yn effeithio arnynt. Ond mae angen eich help chi i wneud gwahaniaeth.

Sut y gallaf helpu?

Mae cymryd rhan yn hawdd – mae’n cynnwys cwblhau arolwg ar-lein sy’n gofyn am eich manylion cyswllt a rhywfaint o wybodaeth bersonol, megis eich ethnigrwydd a dyddiad geni. Mae hefyd rhai cwestiynau am eich iechyd meddwl a’ch iechyd corfforol yn ogystal â’ch ffordd o fyw. Dylai gymryd rhwng 10 a 15 munud i’w gwblhau ac mae’r holl wybodaeth a ddarparwyd gennych yn gyfrinachol. Gallwch ddysgu mwy am gymryd rhan a chwblhau’r arolwg ar ein tudalen astudiaeth ar-lein.

Gan ddibynnu ar y wybodaeth a ddarparwyd gennych, er enghraifft, ble rydych yn byw neu’r diagnosisau rydych wedi’u cael, gallwn gysylltu â chi ynglŷn â threfnu cyfweliad un i un gydag un o’n hymchwilwyr er mwyn ein helpu i gasglu gwybodaeth fanylach am eich profiadau. Gallwn hefyd ofyn a ydych yn fodlon darparu sampl o waed neu boer.

A oes unrhyw ffyrdd eraill y gallaf helpu?

Gallwch hefyd fynd i’n hysbysfwrdd i ddod o hyd i gyfleoedd i helpu gydag astudiaethau iechyd meddwl eraill, yn uniongyrchol gyda ni a gyda grwpiau ymchwil eraill yn y DU.

Gallwch hefyd helpu i ledaenu’r neges am ein hymchwil! Gallwch wahodd eich ffrindiau a theulu i gymryd rhan yn yr arolwg ar-lein, p’un a ydynt wedi cael salwch meddwl ai peidio.

 

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd