Skip to main content

Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH: Zoe

Zoe yw sylfaenydd a chadeirydd ADHD Connections, sef sefydliad sy’n rhoi hyfforddiant a chymorth i ysgolion, teuluoedd a sefydliadau eraill ledled De Cymru. Mae hefyd yn un o Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH, gan helpu i ledaenu’r neges am ein hymchwil. Dyma ei stori:

Zoe ydw i, rwy’n 35 oed ac rwy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda fy ngŵr a’m tri o blant.

Rwyf wedi bod yn ymwneud ag NCMH ers 2012 pan gafodd fy mhlentyn canol, Dylan, ddiagnosis o Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD). Ar y pryd, roedd fy ngŵr a minnau wedi torri ein calonnau, ond ni fyddai dim yn gallu ein paratoi ar gyfer yr hyn a oedd i ddod; roedd yn ymddangos bod diffyg dealltwriaeth, diffyg cymorth, beirniadaeth a llawer o stigma i gyd yn rhan annatod o fod yn gysylltiedig ag ADHD. Ym mis Mai 2012, sefydlais dudalen Facebook ar gyfer teuluoedd ac unigolion yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr y mae ADHD yn effeithio arnynt. Roeddem am roi lle diogel i’r bobl hyn siarad heb gael eu beirniadu na theimlo cywilydd. Wrth i nifer aelodau ein tudalen gynyddu, daeth yn amlwg yn gyflym iawn bod angen i ni ddarparu gwasanaeth mwy sylweddol. Roedd gweld â’n llygaid ein hunain yr holl deuluoedd yn yr ardal, fel ni, yr oedd ADHD wedi effeithio arnynt ac a oedd yn ei chael hi’n anodd ymdopi o ddydd i ddydd, yn ddigon i ni weithio tuag at greu rhwydwaith ehangach o gymorth. Felly, sylfaenwyd ADHD Connections.

Yn 2013, cawsom statws elusen ac rydym bellach wedi ehangu i ardal Rhondda Cynon Taf, gan roi cyngor a rhaglenni rhianta i 330 o deuluoedd, yn ogystal â chyfleoedd i ryngweithio’n gymdeithasol na fyddent o bosibl yn eu cael fel arall.

Bod yn rhan o waith ymchwil yw un o’r agweddau pwysicaf ar fy ngwaith gydag ADHD Connections. Fy nod yw dysgu cymaint â phosibl am ADHD; o ddiagnosis i driniaethau, a hyd yn oed goblygiadau cymdeithasol cyffredin y cyflwr. Rwyf wedi treulio’r ychydig flynyddoedd diwethaf yn mynd i seminarau a chymryd rhan mewn astudiaethau geneteg yng Nghaerdydd gyda’r Athro Anita Thapar, a darparwyd pob un o’r rhain gan NCMH.

Mae profion geneteg yn arbennig wedi bod yn bwnc llosg mawr o fewn yr elusen. Mae pob teulu newydd sy’n cysylltu â ni yn cael yr holl wybodaeth am y gwaith anhygoel y mae NCMH yn ei wneud a’r hyn y mae eisoes wedi’i gyflawni. Credaf yn gryf y bydd y gwaith hwn yn helpu i newid y camsyniad cyffredin bod ADHD yn esgus am ymddygiad gwael, yn hytrach na chyflwr cymhleth.

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd