Skip to main content

Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH: Michelle

Mae Michelle yn gyn-nyrs seiciatrig o Gasnewydd. Mae hefyd yn un o Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH, gan helpu i ledaenu’r neges am ein hymchwil. Dyma ei stori:

Michelle ydw i, rwy’n 46 oed ar rwy’n byw yng Nghasnewydd. Cefais ddiagnosis o anhwylder deubegynol bedair blynedd yn ôl. Byddwn yn cael fy ystyried yn blentyn heriol ac es i i weld seiciatrydd ar sawl achlysur yn ystod fy mhlentyndod. Rwy’n siŵr y byddwn wedi cael asesiad ar gyfer ADHD pe bai diagnosis o’r fath ar gael ar y pryd.

Dechreuodd fy mhrofiad cyntaf o iselder pan oeddwn tua 13 oed. Yn sgil cwympo mewn cariad am y tro cyntaf yn fy arddegau, a rhieni annymunol ‘nad oeddent yn fy neall’, bu llawer o ddagrau a phyliau o dymer ddrwg, ond nid oedd neb yn meddwl eu bod yn ddim mwy na hynny.

Drwy gydol canol fy arddegau, roedd gen i bersonoliaeth allblyg iawn, yn llawn hwyl mewn cwmni a bob amser yn awyddus i gael parti gyda fy ffrindiau. Heb yn wybod i mi, roeddwn wedi dechrau hunanfeddyginiaethu ag alcohol a phan oeddwn yn 18 oed, symudais allan o gartref y teulu. Roedd blynyddoedd fy arddegau yn llawn problemau felly teimlais ryddhad (yn ogystal â mymryn o dristwch) wrth ffarwelio â’m teulu.

Dychwelais adref yn 20 oed, ar ôl colli fy fflat wrth lithro i bwl anferth o hwyliau isel a olygai na allwn adael fy ngwely am sawl mis. Dyma pryd y dechreuais gymryd gwrth-iselyddion, ac rwy’n dal i’w defnyddio hyd heddiw.

Pan oeddwn yn 23 oed, hyfforddais i fod yn nyrs seiciatrig a bûm yn gweithio yn y rôl nes fy mod yn 35 oed, ac erbyn hynny roeddwn yn dioddef o fwy o symptomau na’r cleifion!

Un o’r anawsterau rwyf wedi’u cael gydag anhwylder deubegynol yw y gall gymryd blynyddoedd i roi diagnosis. Yn ystod cyfnod o hwyliau isel, gallech gael gwybod, a hynny ar gam, eich bod yn dioddef o iselder, ac yn ystod cyfnodau o hwyliau uchel, mae’n annhebygol y byddwch yn cydnabod bod gennych salwch o unrhyw fath.

Cefais dri chyfnod o hwyliau uchel dros ben a llawer mwy o gyfnodau o hwyliau isel rhwng 18 a 40 oed. Digwyddodd y cyfnod diwethaf o hwyliau uchel ym mis Medi 2010 ac, o’r diwedd, arweiniodd at ddiagnosis o anhwylder deubegynol a thriniaeth. Er bod y driniaeth yn llwyddiannus, cymerodd amser hir i ddechrau gweld canlyniadau ac roedd y cyfnod yn y

cyfamser yn anodd ac yn llawn ymddygiad byrbwyll a nifer o ymdrechion i gyflawni hunanladdiad.

Gwnes i gwrdd â’m partner yn 2009, a chafodd gyfnod cythryblus ac mae’n cyfaddef y byddai wedi ei gwadnu hi ar unwaith pe bai’n gwybod beth oedd o’i blaen. Wela’ i ddim bai arni. Nawr, fodd bynnag, hi yw fy mhartner, fy ngofalwr ac, yn anad dim, fy ffrind gorau. Rwy’n lwcus iawn bod gen i rwydwaith ardderchog o deulu a ffrindiau; eu sefydlogrwydd nhw sy’n fy helpu i gynnal lefel o gydbwysedd na fyddai’n bosibl hebddynt.

Clywais am NCMH pan welais daflen yn hysbysebu ei hymchwil iechyd meddwl yn nerbynfa practis fy seiciatrydd. Roeddwn yn awyddus i helpu a chysylltais â’r ymchwilwyr er mwyn holi sut i gymryd rhan.

Roedd y broses yn cynnwys ymweliad gan ymchwilydd yn fy nghartref. Gwnaethom sgwrsio am fy mhrofiadau a chwblhau ambell holiadur, a rhoddais sampl fach o waed. Roedd y naws yn anffurfiol ac yn gyfeillgar a chefais fy annog i siarad yn agored.

Mae angen gwell dealltwriaeth o anhwylder deubegynol a chyflyrau iechyd meddwl er mwyn datblygu meddyginiaethau a thriniaethau newydd er mwyn helpu pobl y maent yn effeithio arnynt. Mae cymryd rhan mewn ymchwil yn ffordd wych o gyfrannu at y cynnydd sy’n cael ei wneud a helpu i leihau’r stigma ac anwybodaeth sy’n dal i gael effaith negyddol ar bobl sy’n byw gyda salwch meddwl. Ar ôl gwirfoddoli gydag NCMH cymerais ran yn Rhaglen Addysg Anhwylder Deubegynol Cymru; cwrs 10 wythnos o gyfarfodydd awr o hyd yn cwmpasu’r gwahanol agweddau ar fyw gydag anhwylder deubegynol. Gwnes i gwrdd â phobl eraill sydd ag anhwylder deubegynol a dysgais gryn dipyn. Roedd y canlyniad yn gadarnhaol iawn, gyda gwybodaeth am sbardunau hwyliau, strategaethau ymdopi a gwybodaeth gyffredinol ddefnyddiol iawn. Mae fy nheulu a minnau yn hynod ddiolchgar i’r rhaglen ymchwil am y cymorth ac arweiniad y mae pob un ohonom wedi’u cael.

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd