Skip to main content

Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH: Mair

Mae Mair yn fyfyrwraig Safon Uwch sy’n mwynhau marchogaeth ac sy’n awyddus i fynd i deithio. Mae hefyd yn un o Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH, gan helpu i ledaenu’r neges am ein hymchwil. Dyma ei stori:

Helo, fy enw i yw Mair ac rwy’n 18 mlwydd oed. Rwy’n gorffen fy nghwrs Safon Uwch Bioleg ar hyn o bryd ac rwy’n gobeithio mynd yn ôl i’r coleg i orffen fy nghyrsiau Safon Uwch Cemeg a Mathemateg yn y dyfodol hefyd.

Yn gyntaf, rwy’n bwriadu mynd i deithio. Yn fy amser rhydd rwy’n mwynhau marchogaeth (mae gen i ferlen o’r enw Tommy), mynd am dro (yn enwedig ar hyd arfordir Sir Benfro), ac rwy’n treulio gormod o amser, siŵr o fod, yn gwylio cyfresi Netflix gefn wrth gefn wrth fwyta gormod o siocled – ond rwyf yn fy arddegau felly mae esgus gen i! A pheidiwch â phoeni, rwy’n llosgi’r siocled i ffwrdd yn y gampfa, sef rhywbeth arall rwyf wrth fy modd yn ei wneud.

Yng ngweddill fy amser hamdden rwy’n ymgyrchu dros wasanaethau iechyd meddwl gwell i blant a phobl ifanc, ac yn codi ymwybyddiaeth o salwch meddwl drwy’r cyfryngau (gwnes i ddwy raglen deledu, un ar gyfer S4C a’r llall ar gyfer ITV Cymru) a siarad am fy mhrofiadau.

Es i’n sâl pan oeddwn yn 14 oed, a dechreuais weld CAMHS (gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed) pan oeddwn yn 15 oed. Os rwy’n cofio’n iawn, cefais ddiagnosis o iselder a gorbryder, a darganfyddais hefyd bod gen i ASD (anhwylder yn y sbectrwm awtistig). Rwy’n credu mai cyfuniad o straen ysgol (rwy’n berffeithydd) ac ASD oedd prif achosion fy salwch.

Cafodd fy ASD ei ddarganfod yn hwyr iawn (roeddwn yn 15 oed); roeddwn yn gwybod erioed fy mod yn wahanol, ond nid oeddwn yn gwybod pam, ac arweiniodd hynny at hunan-barch isel. Cefais Therapi Ymddygiad Gwybyddol ac rwyf wedi rhoi cynnig ar lawer o wahanol fathau o feddyginiaeth. Oherwydd fy mhroblemau iechyd meddwl, rwyf wedi treulio sawl mis yn yr ysbyty ac ambell noson yn yr adran Damweiniau ac Achosion Brys oherwydd hunan-niweidio. Gwnes i hefyd ddatblygu anhwylder bwyta, ac o ganlyniad i hyn i gyd hwn oedd cyfnod gwaethaf fy mywyd.

Ond erbyn hyn rwy’n cael triniaeth siarad o’r enw Therapi Ymddygiad Dilechdidol (sy’n debyg i therapi ymddygiad gwybyddol), ac mae hynny wir yn gymorth mawr, ac mae wedi fy helpu i roi’r gorau i hunan-niweidio. Rwy’n gallu rheoli fy emosiynau ychydig yn well, ac rwy’n hen law ar ymwybyddiaeth ofalgar! Rwy’n well o lawer erbyn hyn, ac rwy’n teimlo’n fwy cadarnhaol o lawer am fywyd. Clywais am NCMH gyntaf gan fy mam, a phenderfynon wirfoddoli gyda’n gilydd. Cymerodd hi ran fel PlusOne a gwnes i’r asesiad safonol. Roedd yn syml dros ben i gymryd rhan – y cwbl a wnaethom oedd cofrestru ar-lein, sy’n gofyn am roi ychydig o fanylion yn unig, a chysylltodd rhywun o NCMH â ni i drefnu adeg gyfleus i ddod i ymweld â ni gartref.

Roeddwn i am wirfoddoli oherwydd, fel rhywun sy’n mwynhau gwyddoniaeth, rwy’n gwybod mai’r unig ffordd ymlaen o ran darganfod achosion ffactorau risg salwch meddwl a datblygu triniaethau gwell yw drwy ymchwil wyddonol.

Mae gen i chwilen yn fy mhen ynglŷn â diagnosis hefyd, oherwydd, ar hyn o bryd, gwaith dyfalu yw diagnosis seiciatrig am nad oes unrhyw ffordd arall o asesu cyflwr meddwl rhywun ar wahân i ddefnyddio blychau ticio a barn, ond byddai ffordd fwy effeithiol o roi diagnosis o salwch yn seiliedig ar dystiolaeth fiolegol/wyddonol gadarn, a gallai ymchwil helpu i ddatblygu hynny.

Roedd y gwaith gwirfoddoli yn cynnwys gwneud ychydig o holiaduron syml, cwrdd ag ymchwilydd hyfforddedig hyfryd o NCMH a rhoi mymryn bach o waed (proses gyflym nad oedd yn ddychrynllyd o gwbl!). Roedd y broses yn syml iawn, ac ni chymerodd fwy nag awr gan gynnwys llenwi’r holiaduron, cwrdd â’r ymchwilydd a rhoi gwaed.

Rwyf wir yn annog unrhyw un sy’n gallu cymryd rhan i wneud hynny. Er mwyn i’r ymchwil fod yn gredadwy ac yn ddefnyddiol, mae angen nifer fawr o wirfoddolwyr. Roedd y broses mor hawdd a syml, a byddwch yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i brosiect cenedlaethol sydd â’r nod o wneud gwahaniaeth, a bydd hynny’n gwneud i chi deimlo’n dda amdanoch chi eich hun!

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd