Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH: Lann

Mae Lann yn dad i ddau o blant ac mae’n rhedeg ei fusnes ei hun sy’n gwerthu gwaith celf sy’n seiliedig ar galigraffeg. Mae hefyd yn Hyrwyddwr Ymchwil, gan helpu i ledaenu’r neges am ein hymchwil. Dyma ei stori:

Lann ydw i, rwy’n 42 oed ac rwy’n byw yng Nghaerdydd gyda fy ngwraig, Lydia, a’n dau o blant.

Chwe blynedd yn ôl, collais fy swydd ym maes gwerthu, ac arweiniodd hyn at broblemau o ran fy iechyd meddwl. Ond, wrth edrych yn ôl, nid oeddwn yn teimlo fel fi fy hun am gryn amser cyn colli fy swydd. Byddwn yn teimlo o dan straen ac yn ddig yn aml iawn, ond roeddwn yn meddwl mai fel hyn y mae pobl sy’n gweithio ym maes gwerthu yn teimlo a bod hynny’n beth arferol. Ond pan gollais fy swydd, dechreuodd popeth gwympo’n ddarnau.

Un diwrnod, parciais y car mewn cilfan ar ben y mynydd, diffoddais fy ffôn ac eisteddais yno’n llefain am oriau. Wedyn, gwnes i’r un peth eto drannoeth. Gwyddwn fod rhywbeth o’i le a phenderfynais ei bod yn bryd siarad â’m meddyg teulu.

Nid oedd hyn yn hawdd i mi; cefais fy magu mewn ardal wledig yng Ngorllewin Cork, ac roedd agweddau pobl tuag at iechyd meddwl yn hen ffasiwn iawn pan oeddwn yn blentyn. Nid oedd yn rhywbeth y byddech yn siarad amdano nac yn ei gyfaddef – roedd pobl yn ei weld fel gwendid neu’n meddwl mai esgus oedd y cyfan. Roedd yn rhaid i mi fynd drwy’r profiad fy hun er mwyn deall sut beth yw’r salwch mewn gwirionedd, a sut y gall effeithio ar eich bywyd.

Dechreuodd fy meddyg roi triniaeth i mi ar gyfer iselder, ond roeddwn hefyd yn profi hwyliau anarferol o uchel, a oedd yn union yr un mor ddinistriol. Er fy mod ar fin colli fy swydd, prynais gar newydd sbon a chofrestrais i astudio ar gwrs yn Reading. Roedd yn gwbl anymarferol, ond ar y pryd roedd yn ymddangos fel syniad gwych.

Roeddwn bob amser wedi bod yn un a fyddai’n ymfwrw i bethau newydd ond byth yn eu cwblhau. Roeddwn yn credu mai dyna’r math o bersonoliaeth oedd gen i nes i mi ddarllen erthygl am rywun a oedd yn dioddef o anhwylder deubegynol – roedd fel rhestr o’r holl bethau a oedd yn digwydd i mi. Trafodais hyn gyda fy meddyg ac roedd yn cytuno ei fod yn bosibilrwydd.

Hwn oedd y cam cyntaf ar daith hir ac anodd, nid yn unig i mi, ond i’m teulu hefyd. Yn y pen draw, gyda chymorth fy seiciatrydd a’r bobl agosaf ataf, llwyddais i sefydlogi fy hwyliau ac aros yn iach. Sylweddolais fod meddyginiaeth yn helpu. Cymerodd amser hir i mi weld beth sy’n gweithio i mi, ond pan wnaethom lwyddo i ganfod yr ateb cywir, roedd yn teimlo fel rhywun yn rhoi’r golau yn ôl ymlaen. Roeddwn i’n teimlo fel fi fy hun eto.”

Mae gen i ddiddordeb mewn caligraffeg erioed, ac nawr rwyf wedi gallu dechrau gwerthu fy ngwaith. Rwy’n cael archebion, ac mae popeth yn mynd yn dda iawn. Am y tro cyntaf ers oesoedd, rwy’n cario pen a phapur gyda fi drwy’r amser er mwyn i mi allu nodi syniadau a gwneud brasluniau o bethau. Rwyf wir yn teimlo fel fi fy hun eto.

Pan glywais am NCMH, nid oeddwn yn gweld unrhyw reswm pam na allwn helpu gyda’i ymchwil. Pe bai un peth y gallwn ei wneud i helpu pobl yn y dyfodol, roedd yn rhaid i mi ei wneud. Nid oedd cymryd rhan yn anodd nac yn boenus. Y cyfan roedd yn rhaid i mi ei wneud oedd trafod arolwg gyda’r ymchwilydd, gadael iddo gymryd sampl gwaed a llenwi ambell holiadur.

Yr unig ffordd y gallwn fynd i’r afael â mathau o salwch fel anhwylder deubegynol yw drwy eu deall, felly os gallaf roi ychydig o’m hamser nawr er mwyn gwneud gwahaniaeth i bobl ymhen 10 neu 20 mlynedd efallai, yna pam lai?

Cyfeiriad:
Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd Adeilad Hadyn Ellis Heol Maindy Caerdydd CF24 4HQ
Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd