http://www.healthordisease.com

Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH: Clive

Roedd Clive yn arfer bod yn un o’r dyfarnwyr rygbi mwyaf adnabyddus ac uchel ei barch yn y byd, ac yn ddiweddar daeth yn Ddoethur mewn Athroniaeth. Mae hefyd yn un o Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH, gan helpu i ledaenu’r neges am ymchwil iechyd meddwl. Dyma ei stori:

Clive Norling ydw i. Rwy’n gyn-ddyfarnwr rhyngwladol i Undeb Rygbi Cymru, a rhwng 1968 a 1992 roeddwn yn gyfrifol am ddyfarnu mewn mwy na 1050 o gemau, gan gynnwys 35 o gemau prawf. Rwy’n 64 oed, ac rwyf wedi ymddeol o gyflogaeth llawn amser.

Yn ystod fy ngyrfa, rwyf wedi dal swyddi y byddai llawer o bobl yn eu hystyried yn rhai ar lefel uchel; rheolwr Cymdeithas Adeiladu, Prif Ddarlithydd mewn Busnes mewn Addysg Uwch a, fy swydd olaf, Cyfarwyddwr Dyfarnwyr i Undeb Rygbi Cymru yng Nghaerdydd.

Roedd y rhinweddau a oedd yn ofynnol ar gyfer y rolau rwyf wedi gweithio ynddynt yn ystod fy ngyrfa yn debyg iawn i’r rhai sydd eu hangen ar y maes fel dyfarnwr – roedd yn rhaid i mi fod yn hyderus ac yn gadarn, gan beidio â chynhyrfu na phetruso wrth wneud penderfyniadau. Roeddwn yn gyfarwydd â’r holl bwysau a roddir ar y ‘dyn â’r chwiban’ a’r rheolwr wrth ei waith, ac roeddwn bob amser wedi ymdopi yn y ddwy rôl heb gael unrhyw broblemau iechyd difrifol.

Yn anffodus, yn fy swydd olaf gydag Undeb Rygbi Cymru, roeddwn o dan lefel hynod o uchel o bwysau a straen cysylltiedig â gwaith, a oedd yn wahanol i unrhyw beth roeddwn wedi’i wynebu o’r blaen. Yn y pen draw, dirywiodd fy iechyd corfforol a’m hiechyd meddwl.

Aeth y rhybuddion yn gynyddol waeth, ac fel dyn sydd wedi credu erioed na ddylid parhau i wneud rhywbeth os yw’r pwysau’n mynd yn ormod, penderfynais ymddiswyddo fel Cyfarwyddwr Dyfarnwyr ar ôl pum mlynedd yn y swydd. Yn anffodus, roedd y niwed a wnaed i’m hiechyd yn ystod y cyfnod hwnnw yn ormod, ac o ganlyniad i hynny chwalodd fy nerfau.

Cefais ddiagnosis o iselder clinigol difrifol. O ganlyniad i’r salwch, llithrodd fy meddwl i ‘dwll du’ gofidus a oedd yn llawn anobaith a thristwch; newidiodd fy agwedd optimistaidd a llon arferol yn un o ddigalondid a phesimistiaeth. Roeddwn yn dawedog iawn, ac nid oeddwn am weld na siarad â neb heblaw am fy mhartner, Mair. Roedd hi’n graig i mi, ac, yn bendant, ni fyddwn wedi dod drwyddi heb ei chymorth hi.

Yn anffodus, roedd y broses o wella yn un hir oherwydd sawl digwyddiad pellach a effeithiodd ar fy ngallu i wella o’r salwch meddwl; roedd fy seiciatrydd yn galw hyn yn ‘effaith domino’. Wrth i mi symud ymlaen, gan ddatblygu agwedd fwy cadarnhaol yn raddol,

byddai rhywbeth annisgwyl yn digwydd a fyddai’n fy nharo’n ôl i mewn i’r ‘twll du’ erchyll hwnnw.

Fodd bynnag, gyda chymorth meddyginiaeth, gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol a chefnogaeth ffrindiau a oedd wedi dioddef o iselder eu hunain, llwyddais i wella’n llwyr o’r salwch. Ar ôl dychwelyd i gyflwr meddwl mwy cadarnhaol, roeddwn yn benderfynol o barhau â’r gwaith ymchwil PhD roeddwn wedi bod yn ei wneud cyn mynd yn sâl. Fe wnes i gwblhau fy astudiaethau rhan-amser gan raddio o Brifysgol Caerdydd gyda gradd Doethur mewn Athroniaeth yn 2014.

Clywais am y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl tra oeddwn yn y Brifysgol, a chynigiais gymryd rhan yn ei hastudiaeth ar salwch meddwl. Daeth un o ymchwilwyr NCMH, Andrew, i ymweld â Mair a minnau yn ein cartref; fi fel claf, a Mair fel gofalwr.

Fel rhywun a oedd wedi cael profiad uniongyrchol o salwch meddwl, roeddwn yn falch o allu cyfrannu at yr ymchwil drwy ddisgrifio pob agwedd ar fy mhrofiad. Roeddwn wedi bod yn agored ynglŷn â’m salwch bob amser, ac nid oeddwn erioed wedi meddwl amdano fel ‘stigma’ y dylid teimlo cywilydd amdano.

Ers hynny, mae Mair wedi sefydlu grŵp i ofalwyr yn Abertawe, ar gyfer y bobl hynny sy’n helpu i ofalu am aelodau o’r teulu neu ffrindiau â salwch meddwl, ac rwyf wedi siarad â gweithwyr meddygol proffesiynol yn aml am fy mhrofiad gyda’r ‘twll du’. Felly, byddwn yn annog pobl eraill sy’n dioddef o iselder i gysylltu ag NCMH a chael sgwrs agored â’r ymchwilwyr am eu profiad personol. Bydd eu gwybodaeth o lygad y ffynnon yn helpu i feithrin dealltwriaeth well o salwch a all effeithio ar unrhyw un, fel dal annwyd.

Cyfeiriad:
Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, Prifysgol Caerdydd, Adeilad Hadyn Ellis, Heol Maindy, Caerdydd CF24 4HQ
Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd