http://www.healthordisease.com

Hyrwyddwyr NCMH: Charlotte

Mae Charlotte yn rhedeg Recovery Mummy, sef elusen i ferched y mae iselder ôl-enedigol a chaethiwed wedi effeithio arnynt, ac mae hefyd yn astudio cwnsela. Mae hefyd yn un o Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH, gan helpu i ledaenu’r neges am ein hymchwil. Dyma ei stori: Fy enw i yw Charlotte. Rwy’n briod ac yn fam i ddau fachgen dan bedair oed. Cefais fy ngeni a’m magu yng Nghaerdydd ac rwyf wrth fy modd yn treulio amser gyda fy nheulu. Rydym yn mwynhau treulio amser yn yr awyr agored (waeth beth fo’r tywydd!), pobi cacennau, darllen a chelf a chrefft.

Dechreuais gael problemau gyda fy iechyd meddwl pan oeddwn tua saith oed. Tua’r adeg hon roedd fy rhieni yn mynd drwy ysgariad ffyrnig ac rwy’n credu mai hyn a sbardunodd fy salwch. Rwy’n cofio teimlo’n bryderus a llawer o flynyddoedd yn ddiweddarach, sylweddolais nad oedd yn ‘normal’ i blentyn deimlo anobaith llwyr. Hefyd, dechreuais weld a chlywed pethau nad oedd yno, a oedd yn brofiad eithaf brawychus.

Rwy’n dal i ddioddef o orbryder, ac mae’n rhywbeth y mae’n rhaid i mi ddelio ag ef bob dydd.

Erbyn i mi gyrraedd 15 oed, roeddwn wedi datblygu anorecsia. Roeddwn yn dal i gael pyliau o banig a byddwn yn cael pyliau o seicosis pan fyddai fy hwyliau yn ddrwg. Os oeddwn yn cael diwrnod anodd, byddwn yn dechrau clywed pethau – sŵn sibrwd yn dod o ystafell arall gan amlaf. Dechreuais yfed alcohol fel ffordd o ymdopi. Ni fyddwn yn yfed bob dydd oherwydd ni allwn gael gafael ar alcohol yn ddigon aml, ond roeddwn yn teimlo fy mod yn anghofio am fy obsesiwn â bwyta pan fyddwn yn yfed, ac ni fyddwn yn cael pyliau o banig nac yn poeni am y bwlis yn yr ysgol. Dechreuais hunan-niweidio.

Pan oeddwn yn 19 oed datblygais fwlimia a phrofais gymysgedd o hwyliau uchel ac isel. Roeddwn yn astudio fferylliaeth ac yn gweithio mewn meddygfa yn dosbarthu meddyginiaeth, ond roeddwn wedi cymryd pedwar gorddos ac roeddwn yn yfed yn drwm felly ni allwn barhau â’m gwaith na’m hastudiaethau. Roeddwn o dan ofal seiciatrydd a roddodd ddiagnosis o anhwylder personoliaeth ffiniol ac, yn nes ymlaen, anhwylder deubegynol.

Roeddwn yn yfed yn ddyddiol, roeddwn yn ddiofal, nid oedd ots gen i am fy mywyd a byddwn yn aml yn gwneud pethau byrbwyll, sy’n gallu bod yn beryglus iawn.

Pan oeddwn yn 23, cefais fy nadwenwyno am y tro cyntaf; nid oeddwn yn sylweddoli bod rhoi’r gorau i yfed yn ddisymwth yn gallu peryglu bywyd rhywun alcoholig ac un diwrnod penderfynais nad oeddwn am yfed. Yn sgil hyn, bu’n rhaid i mi fynd i’r adran Damweiniau ac Achosion Brys a chael fy nadwenwyno ar frys. Ar ôl hynny, dechreuais ddioddef o orbryder, panig, paranoia a seicosis mwy difrifol nag o’r blaen a chefais ddiagnosis o anhwylder sgitso-affeithiol.

Dechreuais gymryd meddyginiaeth newydd a helpodd y sefyllfa, ond roeddwn yn dal i gael hwyliau isel a chymerais ddau orddos arall.

Es i’n feichiog pan oeddwn yn 25 oed ac am y tro cyntaf yn fy mywyd roeddwn wir yn teimlo’n ‘normal’. Yn anffodus, dim ond dros dro oedd hyn, a thua 28 wythnos i mewn i’r beichiogrwydd, dechreuais deimlo paranoia a gweld pethau unwaith eto. Cefais gyfnod esgor trawmatig a phan edrychais ar fy mab am y tro cyntaf, roedd gen i deimlad annifyr ei fod yn gwybod na fyddwn yn gallu ei warchod. Cefais y rhithweledigaethau mwyaf gwyllt roeddwn wedi’u cael erioed – roeddwn yn dioddef o seicosis ôl-enedigol.

Ni chafodd fy seicosis ôl-enedigol ei drin yn yr ysbyty i ddechrau – roedd yr uned mamau a babanod yng Nghaerdydd yn llawn a’r dewis arall agosaf oedd Bryste. Dechreuais yfed alcohol eto er mwyn fy helpu i ymdopi. Nid oeddwn yn gwbl ddibynnol ar alcohol ond gwrthododd y tîm argyfwng fynd â mi i ward seiciatrig pan wnaethant ddarganfod fy mod wedi bod yn yfed. Cymerais orddos arall a chefais fy nerbyn i’r ysbyty lle rhoddwyd

meddyginiaeth i mi, a pharhaodd y driniaeth gartref. Byddai Nyrs Seiciatrig Gymunedol yn ymweld â mi yn wythnosol am tua blwyddyn.

Mae wedi cymryd llawer o flynyddoedd i mi deimlo’n dda unwaith eto, a chefais fab arall yn 2014 heb unrhyw broblemau. Rwyf bellach bron yn 30 oed ac er bod gen i orbryder difrifol o hyd, nid wyf yn cymryd meddyginiaeth mwyach. Rwyf newydd gael fy rhyddhau o ofal seiciatrig ar ôl 15 mlynedd ac rwy’n hapus iawn. Rwyf wedi sefydlu elusen, Recovery Mummy, ar gyfer merched beichiog, rhieni a phlant y mae caethiwed ac iselder ôl-enedigol wedi effeithio arnynt, sy’n cynnal grwpiau chwarae cymorth ac yn cynnig cymorth un i un. Rwy’n astudio cwnsela a hefyd yn dilyn hyfforddiant ar gamddefnyddio sylweddau, trais domestig a seicoleg plant.

Byddaf bob amser yn gallu cael gofal seiciatrig os bydd pethau’n mynd yn wael eto ond, am y tro, rwy’n mwynhau bywyd.

Clywais am NCMH yn gynharach eleni ac roeddwn yn fwy na pharod i helpu gyda’i hymchwil. Mae gwybod y gallai fy nghyfraniad helpu i wella’r ffordd y caiff problemau iechyd meddwl eu canfod a’u trin yn y dyfodol yn anrhydedd mawr, a byddwn yn annog pobl eraill i wirfoddoli i helpu.

Cyfeiriad:
Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, Prifysgol Caerdydd, Adeilad Hadyn Ellis, Heol Maindy, Caerdydd CF24 4HQ
Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd