Skip to main content

Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH: Cathy

Mae Cathy yn artist perfformiadol sy’n mwynhau teithio ac wrth ei bodd ag unrhyw beth sy’n ymwneud â’r môr. Mae hefyd yn un o Hyrwyddwyr Ymchwil NCMH, gan helpu i ledaenu’r neges am ein hymchwil.

Cathy ydw i. Rwyf yn fy 50au ac rwy’n byw yng Nghaerdydd, dinas wych sy’n cynnig llawer o bethau cyffrous a diddorol i’w gwneud. Rwyf wrth fy modd â’m gwaith. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn, gan lwyddo i gyfuno fy ngyrfa fel perfformiwr syrcas a theatr stryd ac athrawes sgiliau perfformio â bod yn weinyddwr ac yn rheolwr ar brosiectau celfyddydau a phrosiectau cymunedol. Mae hyn yn golygu fy mod yn cael cwrdd â phob math o bobl, sef rhywbeth rwy’n ei fwynhau yn fawr.

Rwyf wedi teithio dros y byd i gyd a’m hoff wledydd yw’r Aifft, Japan, Gwlad Groeg, Ffrainc a Sbaen. Rwy’n frwdfrydig dros fyd natur, yn enwedig morfilod a dolffiniaid ac unrhyw beth sy’n ymwneud â’r môr. Un tro, pan oeddwn yn canŵio ar afon Orinoco yn Feneswela i weld y dolffiniaid afon, gwnaethom ddal pysgod pirhana a’u coginio ar y barbeciw i ginio.

Mae gen i hefyd gryn ddiddordeb yn yr Hen Eifftiaid ac rwyf hyd yn oed wedi astudio hieroglyffigau – y peth mwyaf heriol rwyf wedi’i wneud erioed, ar wahân i hyfforddi i fod yn berfformiwr syrcas, wrth gwrs!

Rwyf wedi cael nifer o byliau o iselder a gorbryder ers oeddwn yn fy ugeiniau cynnar, ac rwyf wedi cael pyliau o banig. Yn anffodus, y peth gwaethaf oedd sylweddoli fy mod yn cael fy stigmateiddio oherwydd diffyg dealltwriaeth rhai pobl o iechyd meddwl. Roedd yn gyfnod hynod o boenus a gofidus, ac yn frawychus iawn. Cafodd effaith ar fy mywyd mewn nifer o ffyrdd ac, o ganlyniad, datblygais Anhwylder Straen Wedi Trawma. Fodd bynnag, rwyf wedi llwyddo i ddod drwyddi, gan deimlo’n gryfach oherwydd y profiad ac yn fwy penderfynol fyth i fod yn rhan o’r gymuned iechyd meddwl sy’n gweithio er mwyn sicrhau newid cadarnhaol.

Cefais wybod am NCMH mewn darlith gyhoeddus gan ei chyfarwyddwr, yr Athro Jones, ym Mhrifysgol Caerdydd. Pan glywais fod NCMH yn chwilio am bobl i gymryd rhan yn ei hymchwil, achubais ar y cyfle yn syth.

Roedd gwirfoddoli yn hawdd iawn. Cefais sgwrs fer dros y ffôn ac wedyn tua 45 munud gyda’r seicolegydd ymchwil. Gallai fod wedi ymweld â fy nghartref, ond roeddwn yn awyddus i weld yr adeilad trawiadol lle mae NCMH wedi’i leoli er mwyn cael blas ar yr awyrgylch. Roedd yr ymchwilydd yn gyfeillgar ac yn hawddgar iawn, roedd y cwestiynau’n hawdd, roedd amser i drafod pethau ac roeddwn yn teimlo wedi fy ngrymuso erbyn y diwedd. Nid yn unig hynny, roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy mharchu hefyd. Roedd hynny’n bwysig iawn.

Dim ond pigiad pin bach oedd y broses o roi sampl gwaed, ac roedd y cyfan ar ben o fewn amrantiad.

Byddwn yn annog unrhyw un i gymryd rhan a helpu gyda’r gwaith ymchwil. Mae NCMH yn awyddus i siarad â phobl nad ydynt erioed wedi cael problemau iechyd meddwl yn ogystal â’r rheini sydd wedi eu cael.

Rwy’n siŵr y bydd y gwaith ymchwil yn cael effaith fawr – nid yn unig ym maes gwasanaethau iechyd, ond hefyd mewn cymdeithas yn fwy cyffredinol. Bydd yn taflu goleuni ar gyflyrau y gellir eu hetifeddu neu gyflyrau y mae newidiadau hormonaidd yn effeithio arnynt, er enghraifft, ac ar y ffordd y gall newidiadau anodd mewn bywyd (salwch corfforol, colli swydd, profedigaeth ac ati) effeithio ar ein lles meddyliol. Rwyf hefyd yn credu y bydd yn helpu i ddatblygu’r ffordd rydym yn gofalu am ein lles meddyliol, fel therapïau siarad er mwyn gwella, a ffyrdd o gadw’n iach fel cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, creadigol a chwaraeon yn rheolaidd.

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol,
Prifysgol Caerdydd,
Adeilad Hadyn Ellis,
Heol Maindy,
Caerdydd
CF24 4HQ

Ffôn:
+44 (0)29 2068 8401
E-bost:
Mae’r NCMH yn rhan o’r isadeiledd ymchwil i Gymru a ariannir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru. | Polisi preifatrwydd